Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit Yn cefnogi ymateb ar y cyd gan y trydydd sector i Brexit

Yn y blog yma mae Charles Whitmore yn tynnu sylw at drafodaethau diweddar â Llywodraeth Cymru am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn crynhoi datganiad safbwynt y Fforwm a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ers ei lansio yn haf 2018 mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit wedi bod yn cynnal trafodaethau ag amrywiaeth eang o fudiadau ac yn gweithio gyda rhwydweithiau cymdeithas sifil datganoledig eraill a ledled y Deyrnas Unedig ynglŷn â Brexit gan gynnwys:

·       Prosiect Brexit Cymdeithas Sifil yn yr Alban.

·       Y Consortiwm Hawliau Dynol yng Ngogledd Iwerddon.

·       Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit sydd newydd gael ei hail-lansio ac sydd ar waith ledled y DU.

Photo 24-10-2018, 12 34 32 (1).jpg

Ar 24 Hydref 2018 lansiwyd gwefan newydd y Fforwm www.brexitforumwales.org a rhannwyd ei ganfyddiadau cychwynnol a’i ddatganiad safbwynt â Llywodraeth Cymru. Mae’r Fforwm yn bwriadu i hon fod yn ddogfen fyw a bydd yn ei diweddaru’n rheolaidd wrth i fwy o fudiadau gyfrannu at y drafodaeth ac wrth i heriau a chyfleoedd newydd ynglŷn â Brexit ddod i’r golwg.

Croesawodd Llywodraeth Cymru y datganiad. Trafodwyd y datganiad safbwynt mewn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford, a gefnogodd y gofynion yng nghanfyddiadau’r Fforwm. Nododd y bydd y ddogfen, sy’n agored i bob mudiad trydydd sector gyfrannu ati, o gymorth i atgyfnerthu llais Cymru mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU.

Mae’r datganiad yn nodi dyheadau’r sector gan gynnwys:

·       sicrhau craffu priodol ar ddeddfwriaeth gysylltiedig â Brexit

·       sicrhau bod datganoli yn cael ei barchu

·       sicrhau nad yw Brexit na chytundebau masnach rydd yn y dyfodol yn bygwth safonau amgylcheddol na safonau cydraddoldeb ac y bydd y rhain yn parhau i godi

·       sicrhau na chollir dim hawliau o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys hawliau dynol, hawliau plant a hawliau gweithwyr

·       gwarchod yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed yn sgil Brexit, fel y rheini sydd mewn tlodi, dinasyddion yr UE a chymunedau mudol yn ogystal â’r rheini sy’n teimlo effaith cynnydd mewn troseddau casineb yn sgil Brexit

·       peidio â cholli ceiniog o ganlyniad i Brexit

·       cynnal ei bartneriaeth â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat wrth siapio a gweinyddu cyllid, sydd, ym marn y sector, yn hanfodol i gyfrannu at economi deg a chynhwysol

Pa rôl i’r Trydydd Sector yn siapio ac yn gweithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru?

Gofynnodd y Fforwm i Mark Drakeford am ddiweddariad ar drafodaethau â Llywodraeth y DU am y Gronfa Ffyniant Gyffredin a safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch rôl y trydydd sector yng Nghymru yn siapio ac yn gweithredu’r gronfa newydd. Mewn ymateb eglurodd nad yw Llywodraeth y DU wedi rhannu gwybodaeth newydd â Llywodraeth Cymru, a’i bod yn bosib na fydd dim byd pellach yn dod i’r golwg yn y flwyddyn galendr hon. Nododd Llywodraeth Cymru ei bod wedi mynegi ei gwrthwynebiad i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’i bod yn pwyso ar i Lywodraeth y DU sicrhau bod:

·       Swm y cyllid yn gyfwerth â’r hyn y mae Cymru’n ei gael ar hyn o bryd.

·       Y pwerau penderfynu o ran gweinyddu a dosbarthu’r cyllid yn aros yng Nghymru. Gwnaed y pwynt hwn hefyd yn adroddiad diweddar pwyllgor cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ‘Y paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru’.

Croesawodd y mudiadau trydydd sector a oedd yn y cyfarfod ar 24 Hydref y sylwadau hyn ac ymrwymiadau Ysgrifenyddion y Cabinet i’r canlynol, pe bai Cymru yn sicrhau cyllid yn lle cyllid yr UE a phe bai’r pwerau dros y cyllid hwnnw yn aros yng Nghymru:

·       mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i ddefnyddio’r model partneriaeth presennol a ddefnyddir yn y Pwyllgor Monitro Rhaglenni.

·       parhau i ddefnyddio fframwaith aml-flwyddyn pan fo’n bosib.

·       cynnal y ffocws sydd yn y cronfeydd strwythurol presennol ar gydlyniant cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol.

·       ail-bwysleisiodd Mark Drakeford hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru nid yn unig i sicrhau nad yw cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn mynd am yn ôl, ond hefyd i sicrhau bod gwelliannau’n parhau yn y maes hwn ar ôl Brexit.

Mae disgwyl ymgynghoriad ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin cyn diwedd y flwyddyn, ac mae mudiadau’n parhau i bryderu ynglŷn â’r posibilrwydd o golli cyllid o ganlyniad i’r gronfa newydd ac mae mudiadau amrywiol yn gweithio i gyfrannu at ei datblygiad.

Trafodaeth ehangach am y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Photo 24-10-2018, 11 46 20.jpg

Mae adroddiad diweddar gan Equality and Diversity Forum yn nodi bod cyllid gan yr UE yn hanfodol i fudiadau sy’n dibynnu arno ac y gallai unrhyw leihad fygwth eu cynaliadwyedd a pheryglu gwasanaethau cymunedol hollbwysig. Mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree, ‘Prosperous Places: Designing the UK Shared Prosperity Fund’, dadleuwyd y dylai’r ffordd y mae’r Ddeddf Ymadael yn dychwelyd pwerau i’r gweinyddiaethau datganoledig gael ei hefelychu o ran llywodraethu arian datblygu rhanbarthol yn y gronfa newydd. Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylai’r fethodoleg i ddyrannu arian fod yn destun proses negodi agored gan ddefnyddio peirianwaith presennol cysylltiadau rhynglywodraethol (cyd-bwyllgorau’r gweinidogion), y dylai’r gronfa weithredu y tu allan i fformiwla Barnett, ac y dylai fod o leiaf yn gyfwerth â lefelau cyllido presennol.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ar 5 Rhagfyr 2018 yng Nghaerdydd, pan fydd academyddion yn rhoi diweddariad ar broses Brexit a’i goblygiadau i’r trydydd sector yng Nghymru a chynhelir trafodaeth i’r sector drwyddo draw. Croeso i chi gysylltu os hoffech ddod i’r cyfarfod. Gall y Fforwm hefyd gynnig gwybodaeth wedi’i theilwra ynglŷn â chyfraith a pholisi Brexit, felly mae croeso i chi anfon eich cwestiynau drwy ebost neu ein gwefan: www.brexitforumwales.org

Menter ar y cyd yw Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit (y Fforwm) rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac fe’i hariennir gan y Legal Education Foundation (LEF). Fe’i sefydlwyd i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chyfraith a pholisi yn ymwneud â Brexit i fudiadau Trydydd Sector yng Nghymru a chefnogi ymateb ar y cyd i Brexit.