Brexit a chyllid i Gymdeithas Sifil yng Nghymru – Y daith hyd yma a ble rydym arni nawr

Mae Brexit yn peri cryn ofid i ddyfodol y trydydd sector yng Nghymru. Yn y blog hwn, mae Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit Charles Whitmore yn amlinellu goblygiadau cyhoeddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, ac yn ymdrin â’r prif heriau a fydd yn wynebu cymdeithas sifil Cymru ar ôl Brexit.

EU Britain.jpg

Mae elusennau’n cyflawni rôl hanfodol yn helpu i wireddu hawliau pobl yn eu bywydau bob dydd. Maent yn brwydro dros hawliau dynol, cydraddoldeb a hawliau amgylcheddol, ac yn eu rhoi ar waith. Ni all y mudiadau hyn weithredu’n effeithiol heb gyllid digonol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020 cafodd Cymru dros £1.2 biliwn o’r Gronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF), sy’n 458% o’r cyfartaledd y pen ledled y Deyrnas Unedig.

Er y cyllid Ewropeaidd hwn yng Nghymru, dengys data o borth WCVA fod incwm elusennau Cymru fesul pen o’r boblogaeth bron i hanner yr incwm y pen yn y DU yn ei chyfanrwydd.

A fydd yr hyn y mae llywodraeth y DU yn ei sefydlu yn lle’r cyllid Ewropeaidd yn cynnal y lefel o arian y mae ESIF yn ei darparu i Gymru?

Fydd gan y sector yng Nghymru unrhyw reolaeth mewn gynllun olynol? Os ddim, bydd Brexit yn dyfnhau anfantais gymharol y sector elusennol yng Nghymru.

Nid yw’r galw ar y sector ond yn debygol o gynyddu. Mae allanoli gwasanaethau cyhoeddus i elusennau ar dwf, fel y mae’r galw cyffredinol am wasanaethau yn enwedig wrth i’r mesurau cyni barhau. Mae rhai mudiadau hefyd yn wynebu trafferthion wrth geisio cynnal eu gweithlu oherwydd llai o fudo o’r UE.  Tra mae Brexit yn gyfle i wneud diwygiadau positif yn y maes hwn drwy symleiddio gweithdrefnau gweinyddol a’i gwneud yn haws i fudiadau llai gael at gyllid, bydd angen ystyried popeth yn ofalus.

Ffyniant a Rennir

Mae’r cynllun cyllido a fydd yn olynu ESIF, sef ‘Cronfa Ffyniant a Rennir y DU’ (UK Shared Prosperity Fund - UKSPF), wedi bod yn achosi cryn ddadlau yng Nghymru ers y refferendwm. Mor gynnar â 2017 cynhaliodd Llywodraeth CymruPwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth YchwanegolPhwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghoriad ar yr UKSPF. Mae mudiadau Cymdeithas Sifil wedi cyfrannu at y ddadl drwy ymateb i’r ymgynghoriadau hyn, a chynnal ymchwil annibynnol, megis y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, a phrosiect Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025.

Mewn cyferbyniad â hynny, ychydig iawn o wybodaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i darparu. Ym mis Awst 2018 adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru ar y diffyg hwn yn Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE. Yn dilyn cynnig cynnar-yn-y-dydd Jonathan Edwards AS ym mis Gorffennaf 2018, rydym wedi gweld rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â hyn. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig a diweddariad gerbron Tŷ’r Cyffredin ar 24 Gorffennaf 2018.

Mae’r cyhoeddiadau hyn yn awgrymu y gallai dyluniad yr UKSPF ddilyn trywydd tra gwahanol i’r hyn y mae mudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru, y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano. Yn fras:

  • Bwriad Llywodraeth y DU yw rhoi’r UKSPF ar waith drwy Bartneriaethau Menter Lleol. Byddai’r rhain yn datblygu strategaethau diwydiannol lleol ond yn parhau’n atebol i’r fframwaith a osodir gan y llywodraeth ganolog.

  • Bydd yr UKSPF yn ‘mynd i’r afael ag anghydraddoldebau…drwy gynyddu cynhyrchiant…fel yr amlinellir yn y strategaeth ddiwydiannol fodern’.

  • Bydd yr UKSPF ar waith ledled y DU a bydd Llywodraeth y DU yn ‘parchu’r setliadau datganoli’ ac yn ‘ymgysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa’n gweithio i leoedd ledled y DU’.

  • Bydd mynediad at y gronfa yn cael ei hwyluso drwy symleiddio’r broses weinyddol.

  • Pa na bai cytundeb â’r UE, bydd Llywodraeth y DU yn gwarantu cyllid 2014-2020.

Gwireddu Addewidion

Yn union fel y mae gwireddu addewid o hawliau yn amcan polisi pwysig, felly hefyd y mae hybu cynhyrchiant. Does dim dwywaith nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu’r ail amcan hwnnw. Byddai diwedd sydyn ffrwd gyllido yng Nghymru sydd wedi bod yn canolbwyntio ar wireddu hawliau yn heriol i gymdeithas sifil yng Nghymru.

Hyd yn oed cyn cyhoeddiadau diweddar llywodraeth y DU, mae cynrychiolwyr y trydydd sector yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y Fforwmeisoes wedi mynegi pryderon ynghylch ei blaenoriaethau ar gyfer yr UKSPF. Ymysg y pryderon hyn y mae:

  1. Y bydd yr UKSPF yn cael ei harwain gan dwf economaidd yn hytrach na dull cynhwysol wedi’i nodweddu gan gydlyniant cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wrth wraidd pryderon mudiadau sy’n rhan o’r Fforwm. Mae’r ofn hwn wedi codi gan fod yr UKSPF wedi’i gwreiddio yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Tra mae’r sector yn croesawu rôl yr UKSPF yn cefnogi ffyniant economaidd, nid yw’r defnydd o iaith cynhyrchiant ond yn cadarnhau’r pryderon pan nad yw wedi’i seilio ar y gwerthoedd hyn.

  2. Mae trafodaethau yn y Fforwm hefyd wedi amlygu dyhead i weld yr UKSPF yn cael ei datganoli i Gymru. Yn benodol, i gorff yng Nghymru lle mae’r rheolaeth strategol, gan gynnwys gosod blaenoriaethau, yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth gyfartal rhwng y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Serch hynny, ymddengys hyd yma mai ôl-ystyriaeth yw Cymru yn nyluniad yr UKSPF. Bydd yr UKSPF yn cael ei datganoli i Bartneriaethau Menter Lleol, nad ydynt yn bodoli yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd wedi’i roi o’r ffordd y byddai’r Gronfa yn gweithio yng Nghymru, sy’n awgrymu nad yw pryderon Cymru wedi’u hystyried.

  3. Hyd yma nid oes ymrwymiad wedi’i roi i’r dull sy’n seiliedig ar anghenion y mae mudiadau sy’n rhan o’r Fforwm yng Nghymru yn ei ffafrio (gweler er enghraifft yr ymatebion hyn i ymgynghoriadau’r Cynulliad Cenedlaethol gan Sefydliad Bevan a Chwarae Teg). Mae Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi mynegi pryderon y gallai Fformiwla Barnett (sy’n penderfynu faint o arian y mae Cymru’n ei gael gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar faint y boblogaeth) gael ei defnyddio i ddyrannu arian o’r UKSPF. Byddai dyrannu arian yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn arwain at golli cryn dipyn o gyllid yng Nghymru. Neu, pe defnyddid system ymgeisio ledled y DU gallai arian sydd wedi’i ddyrannu’n draddodiadol i ardaloedd mewn angen gael ei ailgyfeirio. 

  4. Yn olaf, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgynghori ar yr UKSPF tua diwedd y flwyddyn, ond nid yw’n beth anarferol i amserlenni’r Llywodraeth ar faterion yn ymwneud â Brexit lithro weithiau.

Bydd nifer helaeth o ddatblygiadau cymhleth ynglŷn â Brexit yn digwydd yn hydref 2018. Bydd dadleuon ynghylch Brexit yn danbaid ac yn siwr o fod yn gecrus. Mae’n bosib y caiff yr UKSPF ei cholli ymhlith y dadleuon ehangach hyn.

Bydd angen i fudiadau yng Nghymru sy’n pryderu am y math o gyllid a fydd yn disodli ESIF gydweithio â’i gilydd – a chyd-drefnu â phrosiectau ledled y DU i sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn clywed pryderon a lleisiau datganoledig.